Menter Cwm Gwendraeth

Menter Cwm Gwendraeth

Menter Cwm Gwendraeth

Dathlu 25

Posted in the BlogNer Category

Pwy feddyliai fod Menter Cwm Gwendraeth Elli yn dathlu Chwarter Canrif eleni? Rhywffordd neu’i gilydd, mae’r bwrlwm gwaith yn ddi-ben-draw a braf fyddai cael hoe fach er mwyn casglu meddyliau ac ystyried pam ydyn ni ‘ma, a beth sydd angen ei wneud o hyd!

Sefydlwyd y Fenter yn 1991 yn dilyn llwyddiant Eisteddfod yr Urdd Cwm Gwendraeth ddwy flynedd ynghynt. Am y tro cyntaf, cwympodd sylw’r genedl ar y Cwm yn benodol, ond yn rhy aml, roedd yn cael ei weld fel ‘no man’s land’ rhwng Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman. Ymhell o fod yn rhyw fath o ddiffeithdir, roedd y Cwm yn rhwydwaith o gymunedau clos, diwylliedig a gweithgar, lle ‘roedd y Gymraeg yn iaith fyw a’r dafodiaith leol yn adlewyrchu’r cyfuniad o amaeth a diwydiant a oedd wedi gwneud y Cwm yn lle unigryw. Roedd dyfodiad y Fenter yn golygu ei bod nawr yn bosib darparu pob math o wasanaethau, a chrëwyd partneriaethau lleol i lenwi bylchau a oedd wedi bodoli ers tro byd!

Erbyn hyn, mae bron i bawb yng Nghymru wedi clywed am Gwm Gwendraeth, diolch yn bennaf i waith Menter Cwm Gwendraeth a’r holl bobl sydd wedi gwirfoddoli gyda ni. Nôl ym 1991, nid oedd y fath beth â Menter Iaith yn bodoli, ac roedd angen ystyried beth oedd y teitl yn ei olygu. Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yw bod Menter Iaith yn cwmpasu popeth yn ymwneud â’r Gymraeg a phobl a chymuned. Mae 22 o Fentrau Iaith eraill bellach mewn lle dros Gymru a thu hwnt, ac mae’n rhaglen gwaith ni fel y mentrau yn eithriadol o eang, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau. Serch hynny, yr un mor ganolog yw’r ymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae cylch Llanelli bellach yn dod o dan adain y Fenter, sy’n golygu bod y Fenter yn awr yn gyfrifol am 47% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin. Mae Llanelli a’r cylch yn ardal sydd lawn mor bwysig â Chwm Gwendraeth, ond lle mae’r heriau y mae’r Gymraeg yn eu hwynebu hyd yn oed yn fwy. Yn ardal Llanelli, mae darpariaeth pob math o wasanaeth a chefnogaeth eisoes yn bodoli, ond bron iawn bob amser yn Saesneg, ac un o’n heriau ni yw cyflwyno’r Gymraeg a darbwyllo partneriaid ei bod yn berthnasol a bod defnydd i wneud hynny.

Wrth ystyried y bwrlwm a’r holl weithgarwch sbardunodd yr Eisteddfod yn ’89, efallai ei bod hi’n amser i Steddfod yr Urdd ddod nôl i Gwm Gwendraeth unwaith eto i ddangos beth sydd wedi’i gyflawni ac i ail-ysbrydoli’n cymunedau. Beth amdani ‘te?