Menter Cwm Gwendraeth

Menter Cwm Gwendraeth

Menter Cwm Gwendraeth

Atal Cylch Enbyd

Posted in the BlogNer Category

Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn mewn digwyddiad cymunedol yn ardal Llanelli a chlywais dau berson lleol yn trafod dyfodol gwasanaethau lleol, wrth i bob corff cyhoeddus orfod blaenoriaethu cyllid a chwilio am arbedion er mwyn gadw’r ddisgl yn wastad. Trodd y sgwrs tuag at y Cyngor Sir. “The County doesn’t want to know people like us,” Dwedodd un. Cytunodd y llall, gan ddweud “Now you’ve got to speak Welsh to get a job there. My boy won’t get a look-in once he leaves school. It’s not fair.” Iddyn nhw, roedd y Gymraeg yn iaith, sy’n eiddo i bobl eraill, sy’n rhoi pobl gyffredin, pobl fel nhw o dan anfantais anheg. Rwyf wrth gwrs wedi clywed yr un farn yn cael ei leisio gan nifer o bobl eraill, yn Gymry di-Gymraeg ac yn fewnfudwyr fel ei gilydd droeon o’r blaen. Eto i gyd, wrth imi eistedd yna’n aros i’r cyfarfod ffurfiol i ddechrau, meddyliais am y cylch enbyd hyn sy’n mynd i fod yn anodd iawn i’w stopio. Maent yn bobl ddi-Gymraeg. Maent yn anfon eu plant i’r ysgol leol, sydd, yn ardal Llanelli a Phorth Tywyn, yn golygu ysgol Saesneg ei chyfrwng. Dyna fydd y dewis naturiol i’r mwyafrif helaeth ohonynt. Ni fydd addysg y plant, waeth beth mae’n gallu ei wneud i’w sgiliau eraill, yn eu galluogi i siarad Cymraeg yn ddigon rhugl i fod yn hyderus yn yr iaith pan fyddant yn gadael yr ysgol.

 

Penbleth?

Os ydym eisiau ehangu’r nifer o swyddi lle mae’r Gymraeg yn fanteisiol er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i gwsmeriaid a’r cyhoedd i ddefnyddio’u Cymraeg, mae’n wir i ddweud y bydd y bobl ddi-Gymraeg hyn o dan rhywfaint o anfantais. Dychmygwch eich bod yn ddi-Gymraeg ac yn cystadlu am swydd yn erbyn ymgeisydd yr un mor profiadol, gyda’r un cymwysterau, ond sy’n medru cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Mewn sefyllfa o’r fath, pa ffordd ddylai’r cyflogwr fynd? Dewis yr unigolyn sy’n gallu cynnig y gwasanaeth gorau a mwyaf cyflawn, neu gyflogi’r unigolyn sydd â llai o sgiliau am eu bod o dan anfantais? Wel, os ydych eisiau sicrhau’r gofal cwsmer gorau, onid yw’n gwneud synnwyr busnes i sicrhau eich bod yn gallu gofalu am eich cwsmeriaid yn eu dewis iaith?

 

Y ddadl?

Yn anffodus, yn hytrach na phenderfynu sicrhau bod eu plant yn cael y cyfle i elwa oddi wrth ddarpariaeth addysg ddwyeithog Sir Gaerfyrddin, mae’n haws i lawer i barhau i anfon eu plant i ysgolion lle na fydd eu plant yn cael y cyfle i ddod yn ddwyieithiog rhugl ac yna cwyno bod eu plant yn cael eu rhoi dan anfantais pan mae’n dod i swyddi nes ymlaen. Os ystyriwch y gallu i siarad Cymraeg fel sgil, mae’n od i feddwl bod rhai rieni’n dewis hepgor eu plant rhag y sgil hwnnw trwy ddewisiadau addysg, ac yna’n honni ei bod bron yn rhywbeth hiliol i roi mantais ar gyfer swydd i unigolyn dwyieithog dros un uniaith Saesneg. Wrth gwrs, mae’r iaith a diwylliant Cymraeg yn golygu llawer mwy na ‘sgil’ yn unig, mae’n agor drysau i fyd cymdeithasol a diwylliannol unigryw a chyfoethog, ond os nad ydych yn ddigon ffodus i gael eich magu i siarad Cymraeg, addysg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i dysgu, yn enwedig os ydyw’n dod law yn llaw gyda chyfleoedd i’w defnyddio y tu allan i’r ysgol, gyda ffrindiau, yn y gweithle, mewn siopau, bwytai, ac yn y blaen.

Mae’n hen gliché i ddweud taw Ein Plant Yw Ein Dyfodol, a hefyd dywedir eich bod yn gallu gweld gwerthoedd unrhyw gymdeithas trwy edrych ar yr addysg a roddir i blant y gymdeithas honno. Os ydym yn ceisio am Gymru gwbl ddwy-ieithog, lle mae’r ddwy iaith yn cael chwarae teg a statws cydradd, sut allwn gyflawni hyn os bydd nifer helaeth o’n bobl ifanc yn gadael y byd addysg heb y sgiliau ieithyddol i elwa’n llawn o’r Sir Gâr ddwy-ieithog hon, heb sôn am Gymru gyfan?

 

Pa mor ddefnyddiol?

Un hen gneuen arall, sydd ond yn rhy aml yn cael ei thaflu i’r pair yw bod dysgu’r Gymraeg yn yr ysgolion yn golygu bod ein plant yn colli’r cyfle i ddysgu iaith arall, iaith ‘fwy ddefnyddiol’. Gall yr ieithoedd ‘mwy defnyddiol’ hyn amrywio yn ôl y siaradwr a pha bynnag iaith sy’n cael y sylw yn y cyfryngau ar y pryd, ond yr un yw’r cŵyn. Os yw hi’n wir bod y Gymraeg yn golygu bod plant Cymru yn colli allan ar iaith dramor, nid oes rhaid edrych yn bell i weld beth sy’n digwydd pan nad yw’r Gymraeg ar y cwricwlwm addysg. Petaech yn Ffrancwr, neu yn Sbaenwr uniaith ac yn ceisio holi cyfeiriad i berson ar y stryd yn Lincoln neu yn Lerpwl, ni fyddech tamaid callach. Nid yw plant Lloegr yn siarad ieithoedd ‘pwysig’ tramor yn well na phlant Cymru ar gyfartaledd. Pam tybed? Atebion ar gerdin post…