Yr Amgylchedd
Polisi Amgylcheddol
Mae MENTER CWM GWENDRAETH ELLI yn bwriadu helpu i amddiffyn a gwarchod yr amgylchedd ac adnoddau lleol trwy fabwysiadu a gweithredu’r polisi hwn.
Bydd MENTER CWM GWENDRAETH ELLI yn gweithio i gwrdd ac o bosibl rhagori ar y cydymffurfiad â deddfwriaeth amgylcheddol a chyflawni gwelliant.
Bydd MENTER CWM GWENDRAETH ELLI yn ceisio:
- Lleihau defnydd dianghenraid o adnoddau yn ei adeiladau a’i weithgareddau
- Osgoi gwastraff, ac annog cadwraeth, ail-ddefnyddio ac ail-gylchu adnoddau. Datblygu a dosbarthu gwybodaeth i gynorthwyo cymdeithasa gwirfoddol eraill i gyflawni arfer da.
- Lleihau llygredd amgylcheddol o’i weithgareddau.
- Hyrwyddo dealltwriaeth a chyfranogiad o faterion amgylcheddol trwy addysg, gwybodaeth ac ymgynghoriad trwy ei ohebiaeth a chefnogaeth y Fforwm Amgylcheddol y Sector Wirfoddol.
- Gweithio mewn partneriaeth gydag eraill yn lleol, yn rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn arferion amgylcheddol da.
Caiff y polisi hwn ei adolygu a’i ddiwygio yn flynyddol o ddyddiad ei fabwysiadu.